Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2021
Amser:
09.02 -
09.49
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Mark Isherwood AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaethlisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd egwyl cyn y bleidlais gyntaf yn nhrafodion Cyfnod 3, ac fel o'r blaen bydd PIN gwahanol ar gyfer y Cyfnod Pleidleisio ac ar gyfer Cyfnod 3.
Dydd Mawrth
· Bydd y Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 9 Mawrth 2021 –
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (15 munud)
Dydd Mawrth 16 Mawrth 2021 –
· Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 17 Mawrth 2021 –
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: A ddylid datganoli darlledu? (30 munud)
– gohiriwyd tan 24 Mawrth
Dydd Mercher 24 Mawrth 2021 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Archwilio datganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni? (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
3.4 Dethol Dadleuon Aelodau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 10 Mawrth:
NNDM7552 Jenny Rathbone
Dai Lloyd
Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o gynllun atal diabetes i Gymru.
Cefnogwyr:
Helen Mary Jones
Darren Millar
Andrew RT Davies
Jayne Bryant
3.5 Cais i drefnu dadl ar NNDM7584
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes beidio ag amserlennu'r cynnig i'w drafod.
4 Busnes y Senedd
4.1 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) - Effaith ar Fusnes y Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes:
· mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai'r Senedd yn cael ei hadalw am faterion nad ydynt yn gysylltiedig â'r Bil;
· y dylai holl fusnes pwyllgorau’r Senedd ddod i ben yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad;
· y dyddiadau cau ar gyfer gosod dogfennau, derbyn Cwestiynau Ysgrifenedig ac eitemau eraill o fusnes a gyflwynwyd, ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw adalw’r Senedd;
· y gall y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gwrdd yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad er mwyn ystyried rheoliadau sy'n ymwneud â Coronafeirws (os ydynt yn ddarostyngedig i adalw’r Senedd) neu ohirio etholiadau 2021 yn unig; ac
· y dylid gwneud penderfyniadau ynghylch busnes y Senedd yn ystod unrhyw wythnosau ychwanegol o'r Pumed Senedd yn dilyn unrhyw benderfyniad i ohirio'r etholiad.
Nododd y Pwyllgor hefyd:
· y broses ar gyfer gohirio'r etholiad;
· mai’r dyddiad cau ar gyfer unrhyw newidiadau i'r Gofrestr Buddiannau yw 6.00pm dydd Mercher 28 Ebrill;
· bwriad y Llywydd i gau’r system ddeisebau yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad, (yn ogystal ag yn ystod y diddymiad);
· bwriad y Llywydd i gyfyngu ar weithgareddau Grwpiau Trawsbleidiol ar ôl 7 Ebrill, y dyddiad cau o 6.00pm dydd Mercher 28 Ebrill ar gyfer cyflwyno dogfennaeth yn ymwneud â gweithgareddau Grwpiau Trawsbleidiol, ac y bydd yr holl Grwpiau Trawsbleidiol yn cael eu dadgofrestru'n awtomatig ar ddechrau’r diddymiad (hanner nos ar 29 Ebrill).
5 Deddfwriaeth
5.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 8 Mawrth fel dyddiad cau i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
6 Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r pwyllgor gwrdd y tu allan i'r slot a drefnwyd iddo am y tair wythnos nesaf, os oes angen.
7 Adroddiadau Rheolau Sefydlog Drafft
7.1 Busnes Cynnar yn dilyn etholiad Senedd
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mawrth.
7.2 Sub Judice
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mawrth.
7.3 Biliau Cydgrynhoi
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mawrth.
7.4 Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mawrth.
8 Y Rheolau Sefydlog
8.1 Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a chytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.